Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Flemming Suite, Canolfan Halliwell, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 28 Chwefror 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09: - 11:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Rhodri Glyn Thomas Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Stephen Dubé, Grŵp Blaengwen Action Group Bleddyn Williams, Grŵp Blaengwen Action Group Caryl Harris, Grŵp Blaengwen Action Group Lynn Morris, Grŵp Blaengwen Action Group Terrence Neil, Grŵp Blaengwen Action Group |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Abigail Phillips (Clerc) Sarita Marshall (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins. Roedd Rhodri Glyn Thomas yn dirprwyo.
2. Deisebau newydd
2.1P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i:
Aros am ymateb gan y Gweinidog;
Ysgrifennu at Gyngor Sir Penfro a grwpiau mynediad lleol i ofyn am eu barn ynghylch pwnc y ddeiseb.
2.2P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru
2.3
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i:
Ysgrifennu at Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chyngor Sir Powys i ofyn am eu barn ynghylch pwnc y ddeiseb;
Ysgrifennu at Cadw, ac anfon copi at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, i ofyn am eu barn ynghylch pwnc y ddeiseb;
Gofyn am ragor o sylwadau gan Save Britain’s Heritage ynghylch pwnc y ddeiseb.
2.4P-04-366 Cau Canolfan Ddydd Aberystwyth
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog i ohebiaeth y Cadeirydd.
2.5P-04-367 Achub ein gwasanaethau ysbyty
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymatebion y Gweinidog a’r bwrdd iechyd.
2.6P-04-368 Annog gweithgarwch corfforol ac iechyd mewn colegau Addysg Bellach
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog a chynnal ymgynghoriad a oedd yn canolbwyntio ar bwnc y ddeiseb.
2.7P-04-369 Deiseb yn erbyn y Llwybr Arfordirol o Gaerdydd i Gasnewydd a thu hwnt.
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb gan y Gweinidog ac i ofyn am farn yr RSPB ynghylch pwnc y ddeiseb.
3. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1P-04-333 Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod
3.2
Cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafodaeth bellach ar y ddesieb nes i’r Grŵp Trawsbleidiol yn ymwneud â Cheffylau orffen ei drafodaethau am y pwnc.
3.3P-03-200 Camlas Morgannwg
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd i ofyn iddo a yw’n fodlon i’r ddeiseb gael ei chau.
3.4P-03-317 Cyllid ar gyfer y Celfyddydau Hijinx
3.5
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am ganlyniad gwaith grŵp gorchwyl a gorffen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar gyfranogiad yn y celfyddydau.
3.6P-04-357 Dyrannu Tai Cymdeithasol yng Nghymru
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb.
3.7P-04-347 Adolygu eiddo ac asedau
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth ynghylch y ddeiseb. O ystyried yr ymatebion cadarnhaol a ddaeth i law, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
4. P-04-329 Rheoli swn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod - sesiwn meic agored
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan aelodau o Grŵp Blaengwen ac aelodau eraill o’r gymuned.
Cytunodd y Pwyllgor:
I ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ogystal â’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn crynhoi pryderon y gymuned am effaith y sŵn o dyrbinau gwynt ac i amgáu copi o drawsgrifiad y cyfarfod;
I ysgrifennu at Statkraft i amlinellu pryderon y Pwyllgor ynghylch sut yr ymdrinnir â chwynion gan y gymuned leol; ei annog i ddatrys problemau ynghylch y sŵn sydd wedi effeithio ar bobl lleol; ac i ofyn iddynt gynnal cyfarfod cyhoeddus gyda’r gymuned leol i drafod y problemau;
Y bydd aelodau o’r Pwyllgor yn rhannu trawsgrifiad o’r sesiwn meic agored gydag Aelodau Cynulliad eraill yn eu grwpiau plaid;
I ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanethau Cymdeithasol i dynnu ei sylw at bryderon y gymuned ynghylch sŵn o ffermydd gwynt;
I ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i dynnu ei sylw at bryderon y gymuned ynghylch sŵn o ffermydd gwynt a’r ffaith y bu diffyg ymgynghori â’r gymuned mewn perthynas â TAN 8 ac na chafwyd adolygiad ohono;
I ddwyn prif bwyntiau’r drafodaeth i sylw pedwar Aelod Cymru o Senedd Ewrop;
I gyhoeddi nodyn ar gyfarfodydd y Pwyllgor gyda rhanddeiliaid ar 27 Chwefror.
4.1Papur i'w nodi - P-04-352 Galwad i Achub Golchdy Stêm y Rhath
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.